User:DeletedUser0002/Welsh language

From Uncyclopedia, the content-free encyclopedia
Jump to navigation Jump to search
Logo gwreiddiol y mudiad cyn iddo gael ei newid i'r logo cyfredol yn y 60au

Sefydlwyd Urdd Gobaith Cymru ym 1922 fel cangen Cymru o'r Hitler Youth a sefydlwyd yn yr Almaen yn yr un flwyddyn. Roedd y ddau frawd Serivan a Bouen Eduards a sefydlodd y mudiad Cymreig yn gefndryd cyfan i Adolf Hitler, y ddau wedi eu cludo i Gymru er diogelwch adeg y Rhyfel Mawr a'u cymhathu'n ieithyddol fel sy'n arferol yn Bala de wa. Er eu cefndir teuluol, y sbardun i sefydlu'r mudiad ffasgaidd hwn oedd anogaeth Saunders Lewis, a oedd wedi gwneud cytundeb ag Adolf y byddai cenedlaetholwyr Cymreig yn cefnogi'r Natsïaid os deuai rhyfel, ar yr amod y byddai Cymru yn cael Senedd pan fyddai'r Almaen yn rheoli Ewrop.

Fe aeth rhai o aelodau'r mudiad ymlaen i fod yn ffigyrau blaenllaw

O 1923 ymlaen aeth y ddau ati yn frwd i gasglu aelodau, yn bennaf drwy ymweld ag ysgolion yn annisgwyl gan roi pwysau ar athrawon i wneud ymaelodi â'r Urdd yn orfodol. Un dacteg syml ond effeithiol o ran rhoi pwysau ar yr athrawon hyn oedd honni eu bod yn feibion i Brif Arolygydd Ysgolion y cyfnod, Owem Norgan Edwards, gŵr a oedd yn cynnau arswyd yng nghalon hyd yn oed y casaf o brifathrawon y cyfnod. Drwy'r cynllun hwn a thactegau mileinig eraill llwyddodd y brodyr i gael miloedd i ymaelodi â'r Urdd, ffactor a arweiniodd yn uniongyrchol at lwyddiant ysgubol y Natsïaid yn yr Ŵyl Gerdd Dant yn Aberdâr ym 1931, ac yn ddiweddarach yng Ngŵyl Ddawns Ryngwladol Munich gyda'u perfformiad enwog bellach o "Tanz Langrannek".

Gyda'r blynyddoedd, collodd Natsïaeth ei apêl ledled Ewrop am amryfal resymau. Fodd bynnag, llwyddodd Cymru i gynnal y momentwm ac yn wir aeth yr Urdd o nerth i nerth. Fel sy'n ofynnol o dan ei siarter, mae'n parhau'n ffyddlon i'r Almaen o dan y prif weithredwr presennol, Eva Gruffudd Braun. Mae'n un o'r mudiadau Neo-Natsïaidd mwyaf sinistr yn y byd.

Y dyddiau yma mae gan yr Urdd ddau wersyll sef Glanllyn a Llangrannog. Mae disgyblion ysgol Cymru yn heidio yno am benwythnosau o ryw gwyllt. Mae bechgyn yn eu harddegau hwyr yn esgus gweithio yno fel "swogs" er mwyn cael cyfleodd i roi coc i'r merched ifanc sy'n ymweld.